30 Gorffennaf 2015 |
Annwyl Gyfaill,
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys deg o Aelodau’r Cynulliad o bob cwr o Gymru sy’n cynrychioli’r pedair plaid wleidyddol yn y Cynulliad. Nod y Pwyllgor yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys cyllid, gweinyddu, polisi a deddfwriaeth.
Sefydlwyd y Pwyllgor ym mis Mehefin 2011, a bydd yn dod i ben ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad ym mis Ebrill 2016, cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016. Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed barn pobl Cymru am y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys ei ddulliau gwaith, y gwaith y mae wedi’i wneud a’r effaith y mae wedi’i chael. Cyn i’r Pumed Cynulliad ddechrau ar ei waith ym mis Mai 2016, mae’r Pwyllgor hefyd am glywed barn ar yr heriau allweddol o ran iechyd a gofal cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf.
Hoffai’r Pwyllgor glywed barn unrhyw un sy’n dymuno dweud ei ddweud: y rhai sydd wedi cydweithio’n agos â’r Pwyllgor, y rhai sydd erioed wedi ymgysylltu â’i waith a phob un arall rhwng y ddau begwn hyn. Yn benodol, hoffai’r Pwyllgor gael eich barn ar y cwestiynau a restrir yn Atodiad A i’r llythyr hwn. Gofynnwn ichi gadw eich sylwadau o dan 2,000 o eiriau a sicrhau bod eich cyflwyniad yn cyrraedd erbyn dydd Gwener 25 Medi 2015. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru . Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen ar-lein sydd ar gael ar ein gwefan. Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallwch ddweud eich dweud wedi’i nodi yn Atodiad B i’r llythyr hwn.
Mae croeso ichi anfon y llythyr hwn ymlaen at unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu. Bydd copi o’r llythyr hefyd ar gael ar wefan y Pwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Mae copi caled o’r polisi hwn ar gael o wneud cais amdano gan y Clerc.
Yn gywir,
David Rees AC
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol